全国统一学习专线 8:30-21:00
专业概况
在这里学什么? Mae’n bosibl astudio'r cwrs hwn ar gampws SA1 Abertawe neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, yn ddibynnol ar ba leoliad sy’n well gan y myfyriwr.Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen radd lawn amser dros dair blynedd sy’n cynnwys darlithoedd a phrofiad o leoliadau ymarferol. Mae’r rhaglen Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar hon wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Yn rhan o’r rhaglen hon bydd myfyrwyr yn mynd ar leoliad mewn amrywiaeth o sefydliadau blynyddoedd cynnar i gael y profiad galwedigaethol angenrheidiol i ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Lluniwyd yr amserlen i gefnogi myfyrwyr i gael digon o amser i gwblhau profiad lleoliadau a’r dysgu yn y Brifysgol. Gallai lleoliadau priodol gynnwys meithrinfeydd a gynhelir a rhai nas cynhelir, crèche, cylchoedd meithrin, dosbarthiadau yn y Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion cynradd a Chanolfannau Dechrau’n Deg. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn cael gradd yn ogystal â thrwydded i ymarfer o fewn ystod o sefydliadau blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc, gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau â damcaniaethau’n ymwneud â datblygiad cyfannol. Bydd y gweithgareddau dysgu’n cynnwys trafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol. Mae pwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer o fewn y blynyddoedd cynnar. Bydd siaradwyr gwadd yn darparu cyfleoedd i glywed gan arbenigwyr sy’n arwain y sector ac yn cadw myfyrwyr yn gyfredol â pholisi a datblygiadau diweddar o fewn y sector blynyddoedd cynnar. Hefyd mae ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.所属院系
进入哪个院系学习? Academic Discipline: Early Years中国学生入学要求
为来自中国的学生设计 Students with Graduation Certificate (Zhuanke / Dazhuan / Gaozhi) may be considered for advanced entry to certain programmes.课程信息
学制:全日制(3 年)
学费:£13,500.00 (¥ 120,790) /年
开学时间:2022九月20日
申请截止日期:
留学地点:SA1 Waterfront CampusUWTSD,Kings Road,Swansea,SA1 8AL, Wales
威尔士三一圣大卫大学University of Wales Trinity Saint David UWTSD Carmarthen / Lampeter / London29 人已关注
¥询价课时:详询
威尔士三一圣大卫大学University of Wales Trinity Saint David UWTSD Carmarthen / Lampeter / London30 人已关注
¥询价课时:详询